Cynhadledd Isadeiledd Gwyrdd Trefol Cymru
Cynhadledd deuddydd yn Arena Swansea Building Society
Parc Amy Dilwyn, Abertawe
Bydd digwyddiad cyntaf Cynhadledd Isadeiledd Gwyrdd Trefol Cymru’n ddigwyddiad o’r radd flaenaf i bobl sy’n gweithio ym maes isadeiledd gwyrdd, atebion sy’n seiliedig ar natur, addasu i’r hinsawdd ac adferiad natur, gan ddod ag arbenigwyr ac ymarferwyr o bob cwr o Gymru, y DU a thu hwnt at ei gilydd.
Bydd y digwyddiad deuddydd hwn yn cynnwys cyflwyniadau byr a thrafodaethau rhyngweithiol gan amrywiaeth eang o siaradwyr rhyngwladol sy’n arwain y ffordd ym maes isadeiledd gwyrdd.
Ynghyd â gweithdai a digon o gyfleoedd rhwydweithio, bydd y gynhadledd yn creu lle ar gyfer cyfnewid gwybodaeth ledled Cymru a’r byd.
Bydd yn gyfle i gwrdd ag eraill sy’n gweithio yn y maes hwn, gwella a rhannu gwybodaeth, profiadau ac arbenigedd a dysgu gan arbenigwyr ac ymarferwyr blaenllaw o Gymru a rhai rhyngwladol.
Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys seremoni wobrwyo sy’n dathlu arloesedd mewn isadeiledd gwyrdd ar draws Cymru.
I gofrestru eich diddordeb a bod ymhlith y bobl gyntaf i glywed pan fydd tocynnau’n cael eu rhyddhau, cwblhewch y ffurflen isod.