Cynlluniau cyffrous ar gyfer mannau gwyrdd newydd yn Sandfields
Strydoedd gwyrddach ac iachach i Sandfields
Mae Cyngor Abertawe a Chyfoeth Naturiol Cymru yn archwilio cyfleoedd i greu mannau gwyrdd newydd yn:
– Parêd Phillips (y tu allan i’r Westbourne)
– Stryd y Traeth (wrth y groesffordd)
– Heol Santes Helen (o’r Llysoedd i Far Bay View)
Bydd y mannau hyn yn:
– Lleihau’r risg o lifogydd drwy amsugno dŵr glaw
– Glanhau dŵr llygredig cyn iddo gyrraedd Bae Abertawe
– Gwneud llwybrau cerdded, olwyno a beicio yn fwy diogel a mwy pleserus
– Oeri ein strydoedd yn ystod hafau poeth a helpu i lanhau’r awyr rydyn ni’n ei hanadlu
– Dod â mwy o natur a bywyd gwyllt i Sandfields
– Cefnogi iechyd a lles i bawb
Dysgu rhagor a rhannu eich barn
Digwyddiad galw heibio
Dydd Iau 27 Tachwedd, 3 – 7pm
Common Meeple, 77 Heol Sant Helen,
Swansea, SA1 4BG
I rannu eich barn neu am ragor o wybodaeth anfonwch e-bost at ideas@urbanfoundry.co.uk
Cymerwch ran
Cofrestrwch yma i gael y wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau toeau gwyrdd, digwyddiadau sydd ar ddod, a’n cyfarfodydd misol Green Up Swansea.